P-05-670 - Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sharon Owen, ar ôl casglu cyfanswm o 3,444 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno rhaglen sgrinio calonnau i bob person ifanc rhwng 10 a 35 oed yng Nghymru. Mae cannoedd yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o gyflwr calon heb ddiagnosis a bydd prawf ECG syml yn nodi'r rhan fwyaf o abnormaleddau'r galon fel y gellir rheoli cyflyrau'n effeithiol.

 

Mae sesiynau sgrinio calonnau'n cynnwys prawf byr, 5-10 munud, sy'n gyflym ac yn ddi-boen ac yn gallu canfod y rhan fwyaf o annormaleddau'r galon a gallai achub cannoedd o fywydau yng Nghymru. Yn rhanbarth Veneto yn yr Eidal, lle mae'r rhaglen sgrinio calonnau wedi'i chynnal ers 25 mlynedd, gostyngodd nifer yr athletwyr (dynion a menywod) a oedd yn marw'n sydyn o ataliad y galon o un mewn 28,000 bob blwyddyn i un mewn 250,000, yn ôl astudiaeth yn 2006 a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn y Gymdeithas Feddygol Americanaidd.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·        Canol De Cymru